Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Bethany Walpole-Wroe ac ystyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor yn ystod Gorffennaf 2014, ar ôl casglu 1008 o lofnodion ar bapur (casglodd ddeiseb gysylltiedig dros 10,300 o lofnodion).
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu’r canllawiau i Awdurdodau Lleol o ran penaethiaid ysgolion yn gallu awdurdodi absenoldeb ar gyfer gwyliau teuluol yn ystod y tymor. Mae llawer o deuluoedd o gefndiroedd tlawd, na allant fforddio mynd ar wyliau yn ystod y tymor, oherwydd bod gwyliau tua 60% yn ddrutach yn ystod y cyfnod gwyliau. Hefyd, mae llawer o deuluoedd lle mae’r rhieni yn gweithio yn methu cymryd amser i ffwrdd yn ystod gwyliau’r ysgol. Gall gwyliau fod yn hynod o addysgiadol, a rhoi ymwybyddiaeth i’r plant o’r byd y maent yn byw ynddo.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Ceredigion
· Canolbarth a Gorllewin Cymru